1. |
Cyflafan
02:10
|
|||
Cyflafan
Mi welais saethu miloedd
Drwy Hollywood, a’r hwyl oedd
Gweled Indiaid yn gelain,
Miri im gweld marw’r rhain.
Cael mwynhau gweld gynnau gant
Diawlineb yn adloniant,
Gweld pen-plu yn llyfu’r llwch
A’i farw yn ddifyrwch.
Ias a gawn o weld hen sgwô
Ni welwn fam yn wylo
Na gweled loes a galar
Cherokee wedi colli câr.
Cael hwyl iawn gweld celanedd
Heb weld y boen, heb weld y bedd.
Ni y gwyn sydd ddynion gwâr,
Nhw ddi-enaid oedd anwar.
Gwelais heno’n ddigalon
Hen Sioux ar y sgrin yn sôn
Am hafau a dyddiau da
O’i adfyd mewn gwarchodfa.
Heno heb lwyth, heb ei wlad,
Yn brudd heb ei wareiddiad.
- Dafydd Wyn Jones
|
||||
2. |
||||
3. |
Cau'r Hen Le
03:50
|
|||
Wrth gloi y clwydi ar ddiwedd dydd
A’r machlud yno’n aros
Fe wyr mai hi yw’r olaf prudd
A’r terfyn ddaw’n rhy agos
Diffodd y golau a brwsio’r llawr
Run fath a’i mam o’i blaen
A chofio’n ol at ddyddiau’r wawr
A’r oesau’n ‘mestyn ymlaen.
Mae’n gwybod mai hi yw yr olaf
I gau y drws ynghlo
Dyma’r tro diwethaf i’w llais gael codi’r to
Ac wrth iddi gerdded at yfory
Sy’n edrych mor ddu a llwm
Mae’n deall mai hi oedd yr unig un
I sgwyddo baich mor drwm.
Ni chofir y chwerthin na’r canu nawr
Na’r hwyliau fu yno’n codi
Cymdeithas na all gofio’r wawr
A’r ysbryd wedi torri.
Atgofion braf blynyddoedd hir
Sy’n drwm dan ddigalondid
Rhy wan fu’r ymladd, dyna’r gwir -
Cau dyrnau yw cadernid.
Mae’n teimlo cywilydd, euogrwydd cras,
Croen gwydd ac iasau cryndod,
Y ddolen wnaeth fethu, methiant ei thras
Nid yw am i neb ei hadnabod.
Holai’ chymydog “lle fuest ti
a hithau’n ddydd mor braf?”
A’i chalon yn chwithig ni allai hi
Gyfaddef a’r hanes mor glaf.
|
||||
4. |
Merch
01:42
|
|||
Merch
Diwall yw'r dlos fach dawel, - un wylaidd
ei thad eilw'n angel,
Ei halaw'n ddi-daw, gwallt del,
Cernod a gwaedd mewn cornel.
Un waedd yw ei hwyrol weddi, - a'i gras
a dry'n sgrech cyn nosi;
Un rheg yw ei phader hi -
Enaid ag ofn rhieni.
Ei rhieni rydd 'arweiniad', - mam hallt
ei melltith a’i phwniad
a dwrn yn anrheg gan dad,
Curo ddengys eu cariad.
 braw daw y 'cariad briwiau' - a loes,
Ei chloi mewn cypyrddau
yn gas er y glas gleisiau
yn y gwyll a'r drws ar gau.
Yn y gwyll cenfydd hen gyllell – un fain
Finiog a daw dichell
I agor cnawd ei dagell,
Heb dad-gwae bydd bywyd gwell.
Heb aros, â gwae mae'n ymosod, - lladd
â llafn rydlyd barod;
Heb waedd tad yn peidio bod,
Undydd - diwedd plentyndod.
Diwedd a neb yn deall, - un weddw
gyhoeddus, ond cibddall;
Un amddifad o dad dall,
A diwedd plentyn diwall.
|
||||
5. |
Awyren Bapur
02:47
|
|||
Awyren Bapur
 thithau'n llyfn a glân a hardd
Yn rhwym i drefn disgyrchiant
Cymeraf ennyd i'th godi di
Ar adain llawn gogoniant.
Mwytho'n gain a thylunio crin
A phlygu craidd dy hanfod
Bysedd deheuig am dy ganol di
A glynu gyda 'nhafod.
Ehed i'r gwynt â d'enaid fry
Wyt frau, cei orffwys fory.
Ar awel braf cei esgyn rhwydd
 gwefr wrth frig entrychion
A throelli yno gerllaw y nef
Ysbrydol fydd d'orwelion.
Rhy fyr yw einioes dalen frau
Rhy hawdd yw rhwyg a malu
Ehed pob cyfle ddaw i'th ran
Cei orffwys pan ddaw yfory.
Ehed i'r gwynt â d'enaid fry
Wyt frau, cei orffwys fory.
Ehed i’r gwynt ar aden rydd
Ar lif a gwres yr awel
Ar wynt cei ffoi rhyw ddydd
Wyt frau, cei orffwys yn dawel.
|
||||
6. |
Mudo
01:57
|
|||
Yn ufudd, rhywsut mae'n cofio - y nyth
Fu’n hin haf cyn mudo
Adref; rhaid yw'r ailgrwydro,
Daw'r gwŷs â brys 'nôl i’w bro.
Broydd hyfryd ddeil i hudo'i - haden,
Rhaid gadael Soweto
A thrist yw cymryd ei thro
I roi hwyl a ffarwelio.
Ffarwel maith cyn dechrau teithio - esgyn
A phesgi wrth fentro
Yn haid ar fin alltudio,
Llu'n canu ar wifr o'u co'.
Fe gwyd, o'r wifr lle bu'r clwydo yn res,
Ar wib heb betruso
Â'u racet am Foroco,
I dir yr haul aiff ar dro.
Daw'r haul a'i hin i'w blino - a'i horiau
Drwy'r Sahara'n brifo
Yn boeth, mae'n anobeithio
Er deddf ei greddf uwch y gro.
A'i greddf disynnwyr diwyro - i Ffrainc
Aiff ar ras llawn cyffro
Yn fuan, a'i hadfywio
Wna'r traeth, at Gymru y tro.
O bell, yng Nghymru caiff bwyllo - ond twyll
Yw gwneud tŷ dan fondo
A chael hoe, nid dyma'i chlo
Â'i natur ufudd eto…
|
||||
7. |
Cregennan
01:43
|
|||
8. |
||||
Llwydwyll Gwareiddiad Llydaw
Yn bendrwm yn ei chwman – ym Min Mor
Ym Mhen March, hen wreigan
Mor hen a’r mor ei hunan
Werthai lês wrth y lan.
Yn ei gweillen ‘roedd gallu – ei llinach,
Deall hen ei theulu;
Hithau’r un fath a’r hyn fu
Yn gweu hanes a gwenu.
Aeth cur i’r plethau cywrain, - hir waedu
Aeth i’r brodwaith mirain,
A’r llaw a bwythai’r lliain
Yn llunio cof mewn llun cain.
Hen wraig drist ar greigiau draw – yn gwarchod
Wrth ei gorchwyl distaw;
Awen ei llwyth yn ei llaw,
Llwydwyll gwareiddiad Llydaw.
Gerallt Lloyd Owen
|
||||
9. |
Gwenllian
02:06
|
|||
Gwenllian
(Sempringham 27-8-2020)
Wedi'n Llyw rhaid oedd dwyn y lleiaf,
Ein bwrw, a bwrw y buraf
Yn ei chrud, rhaid oedd dwyn y fwynaf,
Ein gwanu, a gwanu y gwanaf,
Dwyn ein hil, a dwyn ei haf - heb gysur
A dwyn natur y diniweitiaf.
|
||||
10. |
Gorchuddia Fi
03:38
|
|||
Gorchuddia Fi!
Pan dwi'n sych dwi angen dy ddagrau
I'm dyfrio pan nad oes glaw,
Pan dwi'n oer dwi angen dy heulwen
A'i wenau i gydio'n fy llaw.
Gyda'r gwyll dwi angen dy lusern
I oleuo y llwybr llwm,
Yn y ddawns dwi angen dy rhythm
I'm cynnal a churiad dy ddrwm.
Cer allan a hel myrdd betalau
Yr ardd yn holl liwiau yr haf,
Cadw nhw'n grin tan yr hydref
I greu cwrlid o bersawr braf.
GORCHUDDIA FI!
Yn y gwanwyn dwi angen dy hydref
I liwio prydferthwch ar fyd.
Mae fy ngorffennol i angen d'yfory
A'th ledrith yn gweu swyn ar fy hyd.
Cer allan a hel myrdd betalau
Yr ardd yn holl liwiau yr haf,
Cadw nhw'n grin tan yr hydref
I greu cwrlid o bersawr braf.
GORCHUDDIA FI!
COFLEIDIA FI!
CARA FI!
GORCHUDDIA FI!
|
||||
11. |
Ymdaith Dolgellau
02:01
|
|||
12. |
Llwybrau
03:28
|
|||
Hen rodle oriau rhadlon – ei harddwch
A gerddais yn gyson,
Un hwiangerdd a gwerddon
Ar ei hyd oedd Wtra’r Fron.
Ei hyd yn y cof redaf – yn ddedwydd,
Yn ddi-hid i’r eithaf,
Popeth fel ddoe ddiwethaf
A phob dydd yn ddydd o haf.
I ddesg fy nyddiau ysgol – ac arswyd
Y gwersi beunyddiol
Caf symud drwy daith hudol,
Af i hen haf adre ’n ôl.
Haf glasoed o naddu coedyn – rhwygo
O’r rhygwellt pob hedyn
A hela blodau melyn,
Canu cân o chwiban chwyn1.
Yn hoenus cael chwibanu – alaw nwyf,
Chwilio nyth sy’n celu,
A gwên cofio hen fro gu,
Yn nefoedd heb fyth dyfu.
Nefoedd nas gallaf anghofio – mor fyw
Ac mor fwyn yw’r atgo’,
Yn wenau’n ifanc yno...
Rhai cain yw llwybrau y co’.
Anebrwydd yr ymlwybraf – yma ’nawr
A minnau’n hen, fy ngaeaf
Yn brudd, ond daw coffa braf...
Am rhyw hyd yn chwim rhodiaf.
|
||||
13. |
Eirth
03:17
|
|||
Eirth
Pan oeddwn i yn blentyn mi ‘roeddwn i’n ofalus
Wrth gerdded hyd y stryd
Wrth gerdded pan yn ifanc osgoi llwyth o graciau
Wrth gerdded hyd y stryd
Rhag ofn i’r eirth ein gweld ni
Mae nhw wedi mynd a’r eirth i gyd,
Mae nhw wedi mynd a f’eirth bach i.
Wrth gamu ar y pafin ceisio osgoi llwyth o graciau
Wrth gerdded hyd y stryd
Neidio hyd y palmant rhag ofn gweld eirth yn deffro
Wrth gerdded hyd y stryd
Rhag ofn i’r eirth ein gweld ni.
Ond wrth imi dyfu fyny newidiodd y bygythiad
Wrth gerdded hyd y stryd
Dwi’n drist ac yn hiraethu ac am i’r eirth ddychwelyd
Wrth gerdded hyd y stryd
Ond wna nhw fyth ddychwelyd...
|
Huw Dylan Swansea, UK
Un daith o'r Heledd Wen i Ddolgellau drwy Bontypridd, Caerdydd, a Chaerwysg cyn cyrraedd Treforys, Abertawe.
Gwerin Cymraeg.
Rap traddodiadol.
@Gurfal
Streaming and Download help
If you like Huw Dylan, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp