We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Llwybrau

from O Feirion i Dreforys by Huw Dylan

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £1 GBP  or more

     

  • CD cyfyngedig - www.sioptytawe.co.uk/product/huw-dylan-o-feirion-i-dreforys-cd/
    Compact Disc (CD) + Digital Album

    Albwm gyfan ar ffurf CD (edrych fel vinyl) gyda chelfwaith gan @theartofsok. 11/9/2021 - 2 ar ôl yn Siop Tŷ Tawe - www.sioptytawe.co.uk/product/huw-dylan-o-feirion-i-dreforys-cd/

    Includes unlimited streaming of O Feirion i Dreforys via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.

    Sold Out

about

(Llais Cefndir: Heledd Owen. Alawon: Llif Llwgr, Hyd y Frwynen)

lyrics

Hen rodle oriau rhadlon – ei harddwch
A gerddais yn gyson,
Un hwiangerdd a gwerddon
Ar ei hyd oedd Wtra’r Fron.

Ei hyd yn y cof redaf – yn ddedwydd,
Yn ddi-hid i’r eithaf,
Popeth fel ddoe ddiwethaf
A phob dydd yn ddydd o haf.

I ddesg fy nyddiau ysgol – ac arswyd
Y gwersi beunyddiol
Caf symud drwy daith hudol,
Af i hen haf adre ’n ôl.

Haf glasoed o naddu coedyn – rhwygo
O’r rhygwellt pob hedyn
A hela blodau melyn,
Canu cân o chwiban chwyn1.

Yn hoenus cael chwibanu – alaw nwyf,
Chwilio nyth sy’n celu,
A gwên cofio hen fro gu,
Yn nefoedd heb fyth dyfu.

Nefoedd nas gallaf anghofio – mor fyw
Ac mor fwyn yw’r atgo’,
Yn wenau’n ifanc yno...
Rhai cain yw llwybrau y co’.

Anebrwydd yr ymlwybraf – yma ’nawr
A minnau’n hen, fy ngaeaf
Yn brudd, ond daw coffa braf...
Am rhyw hyd yn chwim rhodiaf.

credits

from O Feirion i Dreforys, released May 1, 2021
Huw Dylan Owen

license

all rights reserved

tags

about

Huw Dylan Swansea, UK

Un daith o'r Heledd Wen i Ddolgellau drwy Bontypridd, Caerdydd, a Chaerwysg cyn cyrraedd Treforys, Abertawe.

Gwerin Cymraeg.

Rap traddodiadol.

@Gurfal

contact / help

Contact Huw Dylan

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this track or account

If you like Huw Dylan, you may also like: